Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly yn fynych pan elo i Gymanfa, neu Gyfarfod Misol, traetha'i ddychymyg fel pe bai'n wirionedd diddadl; a chan fod dychymyg gŵr cyfoethog yn gadarnach na ffeithiau dyn tlawd, y mae'n ddiau gennyf ddarfod i'r cyngor Seisnigol sefydlu aml "achos" ar ei sail. Y mae hi'n digwydd bod gennyf i well cyfleustra na neb arall i wybod pa faint o Saesneg, ac o Gymraeg, a ŵyr plant Methodistiaid y dref honno, ond y mae cyfleustra'r gŵr cyfoethog i wybod hynny'n llai na'r eiddo neb yn yr ardal, canys nid yw byth yn mynd ar gyfyl nac Ysgol Sabbothol na chyfarfod plant na dim o'r fath. Pe buaswn i'n ddigon cyfoethog i siarad yn y Sasiwn, tystiolaeth sicr o fath hon a draethaswn, sef bod plant i Saeson pur wedi myned ar eu gwaethaf yn Gymry o ran iaith gan mor Gymreig ydyw awyr y dref. Ond pa beth a ddeuai o'r "achosion gwir angenrheidiol hyn" pe na thystiolaethai neb ond yr hyn a wyddai! . . .

Gair o gymhwysiad at y Cymry'n gyffredinol.—Na chymerwch eich hudo yn enw crefydd i rodio yn ôl helynt y byd hwn, nac i gydredeg â dull y byd hwn yn ei lol, ei rodres, ei falchder, na'i foethau. Nac edrychwch ar anwybodaeth o'r Gymraeg yn beth parchus, na hyd yn oed yn beth esgusadwy, ond yn hytrach yn beth cywilyddus. Na fydded ichwi roi dim cefnogaeth i'r rhieni Cymreig ynfyd hynny sydd, trwy