Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddirfawr ymdrech, wedi llwyddo i fagu eu plant yn Saeson uniaith. Yr ydych wrth roddi arian i adeiladu'r hyn y gellir eu galw yn "noddfeydd balchder" ar eu cyfer yn dodi bri ar eu hynfydrwydd, ac yn calonogi eraill i ymdebygu iddynt. Credwch na ellir gwneud Cristion gwych o Gymro gwael. Hyd y sylwais i, y rhai parotaf i wadu iaith eu tadau ydyw'r rhai parotaf i wadu crefydd eu tadau hefyd. Yn wir y mae'r gwirionedd neilltuol yna'n llechu yn y gwirionedd. cyffredinol hwn:—"Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf sydd ffyddlon mewn llawer hefyd, a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf sydd anghyfiawn mewn llawer hefyd." Dangoswch chwi ddyn a wadodd ei iaith, a dangosaf innau ddyn a wad Grist am resymau llawn cyn saled. Ni feddyliai'r bardd gwylltaf ei ddychymyg am ddarlunio Dic Siôn Dafydd yn marw fel merthyr.

Byddai'n hawdd dwyn digonedd o ffeithiau i brofi eich bod yn gwneud yr hyn sydd hollol niweidiol i grefydd, ac i ddynoliaeth hefyd, wrth anwesu'r cyfryw; ac yn gwneud yr hyn sydd afreidiol wrth anwesu'r Saeson pur. Peidiwch â thrin y Saeson sydd yn eich gwlad fel pe baent baganiaid difeddwl a diymadferth; canys honnant eu bod yn fwy crefyddgar nag un genedl tan haul. Am hynny, rhowch iddynt gyfleustra i ddangos eu crefyddgarwch, gan adael iddynt ddarbod drostynt eu hunain megis y gadewir iddynt wneud yn