Yr wyf i'n parchu dynion cyfoethog sy'n ddynion cyfoethog. Clodforer y dynion a fedrodd lenwi eu llogellau ag arian heb esgeuluso llenwi eu pen â gwybodaeth, a'u calon â gras—clodforer y rhai hynny'n fwy am eu bod mor brin.
Yn sicr ni ddylid dibrisio arian, canys y mae'n rhoi cyfleustra i ddynion da wneud llawer o ddaioni. Y mae hefyd yn codi dynion dibwys i sefyllfa bwysig; yn eu galluogi i edrych yn bwysig, ac yn gartrefol yn y sefyllfa honno; yn eu galluogi i siarad y pethau mwyaf cyffredin mewn modd a bair i wrandawyr dwl dybied eu bod yn anghyffredin, ac yn eu galluogi i dalu am gyhoeddi anerchiadau a gyfrifir yn rhy sâl i'w cyhoeddi'n ddi-dâl. Y mae arian, meddaf eto, yn gwthio dyn dinod i'r amlwg; yn rhoi cyfleustra iddo i arfer y tipyn dawn a fydd ynddo; ac wrth fynych arfer y mae'n cyrraedd rhyw rugledd ymadrodd, a elwir gan fwytawyr y briwsion yn huodledd . . .
Er nad oes arnaf ofn Sasiynaid o Ddic-Siôn-Dafyddion, ac er eich bod yn fy ngolwg yn fwy dirmygedig na neb, eto chwi welwch fy mod yn addef bod eich manteision yn lluosog a'ch dylanwad yn fawr. Addefaf yr addolir cyfoeth ym Mhrydain ymron cymaint ag yr addolir uchelfonedd yn yr Ysbaen, dawn yn Ffrainc, dysgeidiaeth yn yr Almaen, a moesau da yn yr Yswêd.