WRTH FEDYDDIO PLENTYN
GOFYNNWYD I EMRYS FEDYDDIO MERCH FACH I FEDDYG. DYMA'R ARAITH A RODDODD I'R RHIENI, A'I WEDDI
Fe ofynnodd chwaer fach y baban yma imi ychydig amser yn ôl yn ei dull plentynnaidd ond pert ei hun, "Pa bryd yr ydachi yn mynd i bregethu i'r babi?" Wel, fe ŵyr rhai hŷn nad ydyw ddim yn wiw i'r sawl fydd yn bedyddio bregethu dim i fabanod, ac nad yw'n fuddiol pregethu rhyw lawer i'w rhieni hwy chwaith, yn enwedig pan fyddir yn bedyddio mewn cynulleidfa gymysg. Os disgwylir i mi wrth fy swydd, ac yn enw'r eglwys roi dau neu dri o gynghorion i'r brawd a'r chwaer yma, rhaid iddynt beidio â meddwl fy mod wrth hynny'n fy nghyfrif fy hun yn well na hwy, nac yn gystal â hwy. Llefaru y byddaf fel pechadur wrth bechaduriaid, fel cyfaill wrth gyfeillion, gan ddymuno eu lles o'm calon. Y mae'n dda gennym oll weled Dr. H. yn llwyddo yn ei alwedigaeth ac yn cael ei anrhydeddu yn y naill ffordd a'r llall. Ond cofied y ddau fod popeth o'r fath yn mwyhau eu cyfrifoldeb, ac yn wir yn ei ddwyn ef i wyneb temtasiynau