Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newyddion. Yr ydych chwi Dr. Hughes wrth natur yn bur gymdeithasgar, ac y mae hynny'n rhinwedd dymunol a gwerthfawr, ond y mae o'n rhinwedd peryglus iawn. Gofelwch gan hynny na wneloch ddim cyfeiliorni trwy'r hyn a eilw'r Saeson yn excess of virtue. Penderfynwch na wneloch byth gyfeillion rhy agos o ddynion a all niweidio eich crefydd.

'Wn i ddim a ydych yn darllen a gweddïo yn y teulu, ond mi wn fod eich galwedigaeth yn ei gwneud hi'n bur hawdd ichwi esgeuluso'r ddyletswydd hon. Mynnwch ychydig o amser bob dydd i ddarllen y Beibl, beth bynnag, ac yn hytrach na pheidio â gweddio yn y teulu o gwbl, darllenwch weddi fer o Lyfr Gweddïau. Yr wyf yn apelio atoch chwi Mrs. Hughes i rwyddhau ffordd eich priod i wneuthur hyn o beth.

Penderfynwch addysgu'ch plant yn elfennau crefydd, canys chwi a all eu dysgu hwy orau o bawb. Yn wir, fe fydd y bedyddio'n ofer oni bydd dysgu yn ei ganlyn.

Cofiwch fod yn eich plentyn dair rhan, sef corff, enaid ac ysbryd, ac mai addysg grefyddol yn unig a ddatblyga'i ysbryd o.

Peidiwch â meddwl mai chwi'ch dau piau'r fechan hon yn gyfangwbl. Y mae gan yr Eglwys ryw ran ynddi. Ie, y mae'r wladwriaeth yn hawlio rhyw ran ynddi. Ond Duw piau'r rhan orau ohoni. Ef yw Tad