yr ysbrydoedd, ac Ef yw Tad ei hysbryd hithau. Tad a mam ei chorff hi ydych chwi, a heddiw yn y bedydd yr ydych yn rhoddi hwnnw hefyd i Dduw yn ei roddi ef
yn aberth byw, santaidd a chymeradwy, gan deimlo mai hynny ydyw'ch rhesymol wasanaeth. Ond wrth ei rhoddi iddo Ef yr ydych yn ei meddiannu yn ei meddiannu yn yr ystyr uchaf. Pan ydych yn ei rhoddi iddo Ef, y mae Yntau yn ei rhoddi'n ôl i chwithau, gan ddywedyd, "Mag y plentyn hwn i Mi."
Dyro i ni fel Eglwys ffydd i gyflwyno'r fechan hon i Ti, yr hwn a'i rhoes ac a'i piau hi. Derbyn hi o ddwylo ei mam, ac o ddwylo'r Eglwys, a dod hi ym mreichiau dy Fab, yr hwn wrth ei chofleidio hi a ddichon ei bendithio, a'i gwneud yn etifedd bywyd tragwyddol. Bedyddia hi â'r Ysbryd Glân fel na byddo dim yn lluddias
lluddias ei bedyddio â dwfr. Y mae hi wedi ei geni ar lun a delw ei rhieni. Boed iddi gael ei geni drachefn ar dy lun a'th ddelw Di.
Os da yn dy olwg, dyro iddi einioes ac iechyd i'th wasanaethu Di. Gwna hi yn y man fel Persis, a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd, fel Dorcas, yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, a hefyd fel Debora fam yn yn Israel.
Boed i'r fam, fel i Elisabeth, lawenydd a gorfoledd o'i phlegyd, a boed i lawer mam lawenychu am ei