Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ac y nithir y rhai sy'n awr yn nithio. Na ad inni anghofio bod gennyt tithau dy faes a'th lawr dyrnu, dy ffwrn a'th ysgubor. O! dihidla arnom law graslon ym moddion gras, a thywynned dy wyneb arnom fel y tyfom, ac aeddfedu, a dwyn ffrwyth lawer, a hynny i berffeithrwydd. Gwna ni oll yn gyfryw rai na chwelir ni byth ymaith gan wynt cryf y farn, ond y casgler ni yn hytrach i'th ysgubor.
Derbyn ein diolch, a gwrando'n deisyfiadau, &c.