Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PREGETH

A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?
Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. —Ioan ix 2-3.

Fel meddyg y dangosir yr Iesu yng nghorff y bennod hon; ond fel rabbi neu athro y dangosir o allan yn y testun. Yr oedd o'n ddoethor neu ddoctor yn nau ystyr y gair, oblegid fe'i hanfonwyd o'r nef, ac fe'i breintiwyd gan y nef, i ddysgu ac i iacháu. A gwnaeth hyn mor effeithiol fel yr enillodd o'r un teitlau ar y ddaear hefyd, canys y bobl yn ei wlad ei hun a'i cyfrifai'n broffwyd, a chydnabyddai hyd yn oed ei elynion ei fod yn feddyg da i bawb ond iddo'i hun.

Fel athro yn bennaf y gweinyddai fo'r swydd broffwydol, sef trwy holi ac ateb—trwy ateb yn hytrach, oblegid anfynych y byddai Iesu Grist, nac un athro da arall yng ngwledydd y Dwyrain yn holi eraill oddieithr er mwyn codi awydd ynddynt hwy i'w holi ef. Ateb, ac nid holi, ydyw gwaith priodol athro, a thuag at gael cyfleustra i ateb rhaid iddo ymegnïo i fagu ysbryd holgar a chwilgar yn ei ddisgyblion, a thuag at fedru