drugareddau; canys erioed y maent hwy. Maddau fy hen bechodau er mwyn trugareddau sy'n llawer hŷn. Gwnaf, medd Duw o'r nef yn eglur. Ni chofiaf i mo'th bechodau yn fy ffordd i o gofio; ond fe a'u cofia natur yn ei ffordd hi.
Ychydig mewn cymhariaeth o'r drygau sy'n dyfod arnom a allwn ni eu holrhain i'r drygau a wnaethom; ond y mae'n bod yn gallu cysylltu ambell ddioddefaint â phechod neilltuol yn dangos y gall fod cysylltiad rhwng llawer o ddioddefiadau eraill a phechodau neilltuol, ond ein bod ni'n analluog i'w ganfod. Oni chlywsom rai rhieni yn cwyno yn rhithgrefyddol iawn o achos y blinder a gânt oddi wrth eu plant pan y mae'n amlwg i ni fod y blinder hwnnw yn ffrwyth naturiol eu hesgeulustra hwy.
Mewn ambell adfyd y mae calon dyn ei hun yn ei gondemnio am yr anwiredd a ŵyr ef, pan fydd ei gymdogion ond odid yn gofyn yn synedig: "Pwy a bechodd, a'i hwn ai ei rieni" fel y byddai ef yn y fath adfyd. Ond mwy yw Duw na'r galon, ac Ef a ŵyr bob peth. Canlyniad naturiol pechod yn ei olwg Ef ydyw llawer dioddefaint a ymddengys i ni yn ddamwain ac yn anffawd. Llawer dioddefaint, meddaf, ac nid pob dioddefaint, oblegid y mae gwirionedd arall yn bod, sef
Yn ail, Fod dyn yn dioddef weithiau o achos eraill.