Y mae'r ddeddf hon mor fuddiol ag ydyw hi o naturiol, canys oni bai amdani hi, fe fyddai'n haws fyth gan ieuenctid anystyriol ymgymryd â'r cyfrifoldeb ofnadwy o fagu plant, ac fe fyddai llawer o rieni yn fwy esgeulus nag ydynt i hyfforddi eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Gwae i lanc annuwiol yn y Farn, ond gwae ar wae i rieni annuwiol.
Ac nid plant yn unig sy'n dioddef o achos pechodau rhai eraill. Y mae cysylltiad lleol y naill ddyn â'r llall yn ei wneud yn agored i'r un anffawd. Mynych y bydd y cyfiawn yn cyfranogi o aflwydd ei gymydog anghyfiawn. Bydd yr haint a gafodd lety cymwys mewn tŷ aflan yn ymweled â'r tŷ glân sydd yn ei ymyl. Y mae gwledydd o fath Poland, Iwerddon, a'r India, yn ymboeni gan ddrygfyd ac anniddigrwydd oblegid eu cysylltiad gorfodol â gwledydd gormesol.
Ond y mae rhai dynion yn dioddef oblegid eraill mewn ystyr uwch na'r ystyr yr ydys newydd grybwyll amdano, sef er mwyn cyd-ddioddef â nhw. Y mae hwn yn ddioddefaint gwirfoddol, ac am hynny, yn un rhagorol ynddo'i hun, heblaw ei fod yn rhagorol yn ei amcan. Y mae'r neb a ddioddefo er mwyn ysgafnhau dioddefaint eraill yn ail-fyw bywyd yr Iesu, ac fe all trueiniaid yn briodol ddywedyd am y cyfryw un: "Efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau." Yn ein holl gystudd ni, yntau a gystuddiwyd.