Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ewyllysio marw gydag ef, a chael ei gladdu gydag ef, ac nid oes eisiau dweud ei fod yn barod iawn i gydgyfodi ag ef, i gydesgyn ac i gyd-fyw ag ef yn dragwyddol, er mwyn cyfranogi o'i ogoniant.
Ac os oes i Grist ogoniant na ddichon o mo'i roddi i arall, fe gaiff ei ddisgyblion weled hwnnw, a bydd gweled y mawr ragorol ogoniant a oedd iddo cyn bod y byd yn ddigon i beri iddynt anghofio eu holl ofidiau ar y ddaear.
Nerthed Duw ni i gyd-ddioddef, os bydd raid, â Christ, fel y'n cydogonedder hefyd.