Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyd a llety mewn rhyw le arall." Gyda hynny fo gaeodd y ffenestr, ac a adawodd y Duw da i sefyll o'r tu allan. Felly fe droes y Duw da ei gefn arno, ac a gerddedd dros ffordd at y tŷ bychan ac a gurodd y ddôr. Gyda'i fod wedi curo, fe agorodd y dyn tlawd y drws, ac a barodd i'r ymdeithiwr ddyfod i mewn ac aros gydag ef dros nos. "Y mae hi eisys yn dywyll," ebe fo, "a heddiw ni elli gerdded ymhellach." Da fu hynny gan yr annwyl Dduw, a myned i mewn a wnaeth o i'r tŷ. Fe estynnodd gwraig y tŷ ei llaw iddo, a chan ei groesawu, hi a ddymunodd arno gydddwyn â hwynt cystal ag y gallai o; nad oedd ganddynt hwy fawr, ond y rhoddent yn ewyllysgar o'r hyn oedd ganddynt. Yna hi ddododd gloron ar y tân, a thra oeddynt hwy'n berwi, hi aeth i odro'i gafr, er mwyn gwneud teisen gloron â'r llaeth. A phan huliwyd y bwrdd, eistedd wrtho a wnaeth y Duw da a chydfwyta, ac yr oedd yn flasus ganddo'r ymborth, er ei waeled, canys yr oedd wynebau llawen ger ei fron. Wedi iddynt fwyta, a dyfod yr amser i gysgu, fe gymerodd y wraig ei gŵr o'r neilltu, ac a ddywedodd wrtho, "Gwrando, anwylyd, ni a wnawn inni heno wely gwellt, fel y caffo'r ymdeithiwr tlawd orwedd a gorffwys yn ein gwely ni; rhaid ei fod yn flinedig iawn, ac yntau wedi cerdded ar hyd y dydd." "A'm holl galon," eb yntau, "mi a gynigiaf hynny iddo." Yna