lannodd y cyfrwy oddi ar ei gefn, ac fe sylwodd yntau fod hyn yn gyflawniad o'i ail ddymuniad. Bellach fo ddechreuodd redeg, gan ei bod yn hwyr ganddo ymgilio i'w stafell ddirgel er mwyn ystyried pa beth mawr a ddymunai o'r drydedd waith. Pan ddaeth o i'r tŷ ac agoryd drws y stafell, wele'i wraig yn ei chanol hi ar y cyfrwy ac heb allu disgyn; oherwydd paham yr oedd hi'n ochain ac yn llefain bob yn ail. Yna fo ddywedodd wrthi, "Ymgysura; mi ddymunaf iti holl ddaoedd y byd, ond iti aros yn y fan lle'r ydwyt." Hithau atebodd, "Pa fudd a fydd hynny i mi, tra bwyf yn eistedd ar y cyfrwy? Tydi a ddymunodd hyn yma i mi, a thydi hefyd a fedr fy rhyddhau." Nid oedd waeth iddo dewi na llefaru—fe fu gorfod iddo ddymuno'n drydydd peth allu o'i wraig ddisgyn oddi ar y cyfrwy; a'r hyn a ddymunwyd, hynny'n ddi-oed a gyflawnwyd. Cyn gynted ag y safodd y wraig ar ei thraed, hi a blannodd ei dwylo yn ei ystlysau ac a ddywedodd wrth ei gŵr, "Penbwl ydwyt; gwell y gwnaethwn i na thydi." Felly ni bu dim ffrwyth i'r goludog o'i holl lafur namyn poen a blinder a gogan a cheffyl coll; ond fe fu'r ddeuddyn tlawd fyw'n foddlon, yn dangnefeddus ac yn dduwiol hyd eu diwedd dedwydd.
CYFIEITHIAD TALFYREDIG O FABINOGI ELLMYNEG.