Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. LLYGAD Y DYDD

Yn awr gwrandewch. Draw yn y wlad, heb fod yn nepell oddi wrth y ffordd fawr, y mae hafoty. Chwi a'i gwelsoch eich hun yn ddiamau. O'i flaen y mae gardd fechan, â rheiliau lliwiedig o'i hamgylch. Yn agos i'r geuffos, ynghanol y borfa fras, yr oedd llygad y dydd yn tyfu; ond gan mai benyw oedd y llysieuyn, ni a'i galwn y waith hon wrth un o'i hen enwau eraill, sef y friallen wen. Yr oedd yr haul yn bwrw cymaint o wres a goleuni arni hi ag ar y blodau gwychion a diwylliedig a oedd yn yr ardd, ac am hynny yr oedd hi'n parhau i dyfu o awr i awr. Un bore hi ymagorodd; fel oedd ei dail mân, gwynion, yn ymddangos fel cynifer o belydrau o amgylch yr haul bychan, melyn, oedd yn y canol.

Wrth edrych i fyny ar haul mawr y nen, a gwrando ar yr hedydd yn canu fry yn yr awyr, yr oedd y friallen fach cyn hapused â phe buasai hi'n ddydd gŵyl; ac er hynny dydd Llun ydoedd hi. Yr oedd y plant oll yn yr ysgol; a thra oeddynt hwy'n eistedd ar eu meinciau, ac yn dysgu'r peth yma a'r peth arall, yr oedd hithau'n eistedd ar ei chonyn main, glas, ac yn dysgu gan yr haul cynnes, a chan bob peth a oedd o'i hamgylch, mor anfeidrol yw daioni Duw. Ac yr oedd yn