llawen iawn ganddi fod yr hedydd yn medru datganu mor eglur ac mor beraidd y peth yr oedd hi'n ei deimlo ynddi ei hun.
Ac fe edrychodd y friallen â rhyw fath o barchedigaeth ar yr aderyn dedwydd oedd yn gallu telori a hedeg felly; eto, heb ymofidio chwaith am na allai hithau ddim gwneud yr un peth.
"Yr wyf yn gallu gweled ac yn gallu clywed," meddai hi ynddi ei hun; "y mae'r haul yn tywynnu arnaf a'r gwynt yn fy nghusanu. O! helaethed y'm doniwyd."
O'r tu mewn i'r rheiliau yr oedd yn sefyll nifer o flodau torsyth, penuchel; a pho leiaf eu perarogl, mwyaf oll oedd eu rhodres. Yr oedd blodau'r brenin (peonies) yn ymestyn ac yn ymchwyddo, er mwyn bod yn gymaint â'r rhosyn; ond nid maint yw popeth chwaith. Yr oedd i flodau'r bendro (tulips) liwiau gorwych, ac yr oedd hyn mor hysbys iddynt, fel yr oeddynt yn sefyll cyn sythed â saeth, er mwyn i eraill synio'n uwch amdanynt. Nid oeddynt hwy'n ymostwng i sylwi y friallen wen oedd o'r tu allan; ond po fwyaf eu difaterwch hwy, mwyaf oll yr oedd hithau'n edrych arnynt, ac yn meddwl "O'r fath flodau godidog ydynt. Yn ddiau, fe ddisgyn yr aderyn bach i'w gweled. Yr wyf yn diolch i'r Nef fy mod yn sefyll yn ddigon agos i syllu ar eu gwychder." Ac fel yr oedd hi'n meddwl