Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blodeuyn dirodres a ddangosasai fwyaf o gydymdeimlad ac o fwyneidd—dra tuag at yr aderyn bach.

LLEDGYFIEITHIAD O UN O FABINOGION HANS ANDERSEN.


III. Y TRI MAB

Yr oedd gan Dartariad goludog â'i enw Tochtamis dri mab o'i unig wraig Turcan-Catan; a chyn ei farw fo draddododd y Farnwr y lle lythyr cymyn seliedig, yn yr hwn yr oedd o'n penodi'n etifedd ei holl dda mab hwnnw a brofai orau ei fod yn fab i Dochtamis. Fe aeth y tri brawd at y Barnwr ac a ddygasant eu profion. Yr oedd yn ymddangos bod ganddynt ill tri hawl gyfartal i'r etifeddiaeth, canys yr oeddynt bob un yn apelio at dystiolaeth eu mam, a oedd eto'n fyw. Ni wyddai'r Barnwr pa fodd i benderfynu'r ddadl. Am hynny fo ddatguddiodd ei benbleth i'r Sultan Togrul a oedd newydd droi i mewn i'r frawdle. Yr oedd y Sultan ar gychwyn i hela, ac o achos hynny gorchymyn a wnaeth i'r rhai a oedd yn ymgyfreithio ddwyn ato'n ddi-oed fommi (mummy) eu tad. Wedi iddo beri gosod y mommi ergyd carreg oddi wrth y frawdle, estynnodd ei fwa i'r mab hynaf, ac a ddywedodd: "Pa un bynnag ohonoch eich tri a saetho'i dad ynghanol ei galon, hwnnw a gydnabyddir yn fab ac yn etifedd i Doch-