Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV. ANGAU A CHWSG

Dyddgwaith, yr oedd Angel Cwsg ac Angel Marwolaeth yn tramwy ar hyd y ddaear fraich—ymmraich fel cyfeillion. Pan fachludodd yr haul eisteddasant ynghyd ar ben bryn a oedd yn agos i anheddau dynion. Fe ymdaenodd distawrwydd trist tros y fro, ac fe beidiodd cloch yr hwyr â chanu yn y pentref draw.

Pan aeth hi'n nos fe gododd Angel Cwsg oddi ar ei eisteddfa fwsoglyd, ac â llaw ysgafn fo heuodd ar led hadau anweledig hun, ac fe'u cludodd awel yr hwyr i'r anheddau tawel. Yn ddioed fe ddaeth syrthni ar drigolion y tir o'r henwr musgrell hyd y plentyn yn ei grud. Fe ymgaeodd pob llygad fel yr anghofiai'r claf ei glefyd, y blinderog ei flinder, a'r tlawd ei dlodi.

Yna fe eisteddodd Angel Cwsg eilwaith wrth ochr ei frawd, ac a lefodd â llawenydd diniwed: O felysed yw gwneuthur da heb beri dim sylw. Pan ymddengys gwrid y bore fe'm bendithia dynion ac a'm galwant yn gyfaill ac yn gymwynaswr.

Felly y llefarodd mwyn Angel Cwsg.

Fe edrychodd Angel Marwolaeth yn athrist arno, ac fe ymddangosodd deigryn yn ei lygad mawr, tywyll. "Och! ebe fo, paham na chawn innau ddiolch gan