ddynion? Gelyn, ysywaeth, y maent hwy yn fy ngalw i, a dinistrydd eu llawenydd wyf yn eu golwg." "O! fy mrawd, eb Angel Cwsg, pan ddeffry'r dynion da o'u hun ddiwethaf, hwy a welant mai cyfaill a chymwynaswr wyt tithau, ac a'th fendithiant yn ddiolchgar. Onid brodyr ydym ein dau, wedi'n danfon gan yr un Tad?"
Ar hyn fe ymloywodd llygad Angel Marwolaeth, ac fe ymgofleidiodd y brodyr yn gariadus.
F. A. KRUMMACHER.
V. Y BACHGEN DRWG
(CYFLWYNEDIG I'R GOLYGYDD)
Yr oedd gynt hen fardd, a hen fardd da ydoedd o hefyd. Un noswaith ac efô'n eistedd yn ei dŷ wrth y tân, yr oedd hi'n chwythu ac yn glawio'n arswydus oddi allan. "Fe fydd y trueiniaid sydd allan heno'n wlyb hyd at y croen," ebe fo.
Ar hyn fe lefodd rhyw fachgennyn o'r tu allan, "O da chwi, agorwch y drws, yr wyf cyn wlyped â'r dŵr, a chyn oered â'r eira!" Yr oedd o'n gerain ac yn curo wrth y drws, tra oedd y glaw'n disgyn yn hidl, a'r gwynt yn ysgytian yr holl ffenestri.
"Druan bach!" ebe'r hen fardd wrth fyned at y