drws. Wedi iddo'i agoryd, gwelai'r bachgennyn yn noethlymun, a'r dwfr yn diferu o'i gudynnau golau. Yr oedd o'n crynu gan annwyd, a threngi a wnaethai’n ddiau, pe nas gollyngesid i mewn.
"Druan bach!" ebe'r hen fardd, gan ei gymryd erbyn ei law, "tyred ataf i, a mi a'th gynhesaf, a thi gei lymaid o win ac afal rhost, canys bachgen tlws ydwyt."
Ac un felly ydoedd o. Yr oedd ei lygaid yn gwreichioni fel dwy seren loyw, ac er bod ei gudynnau'n wlyb, eto yr oeddynt o hyd yn grych. Er ei fod yn crynu drwyddo ac yn welw gan yr oerfel, yr oedd ei wyneb fel wyneb angel. Yr oedd o'n dwyn yn ei law fwa del a oedd wedi ei ddifetha gan y glaw, ac yr oedd y gwahanol liwiau disglair ar ei saethau wedi rhedeg i'w gilydd nes myned yn un lliw llwydaidd.
Fe eisteddodd yr hen fardd o flaen y tân ac a gymerodd y bachgennyn ar ei lin, yna gwasgu allan dwfr o'i wallt, a thwymo'i ddwylo ef yn ei ddwylo'i hun, a rhoddi iddo win melys, brwd, i'w yfed. Yna fe ymadferodd y bachgen, fe ddychwelodd y gwrid i'w fochau, ac yntau a neidiodd ar y llawr ac a ddechreuodd daplasu a rhonta o amgylch yr hen fardd.
"Yr wyt yn ymddangos yn fachgen llon," ebe'r hen ŵr, "beth yw dy enw, dywed?"