"Cariad (Cupid) yw fy enw," ebe fyntau; "oni'm hadwaeni? Dyna fy mwa, a mi warantaf iti y medraf saethu'n wych ag ef. Yn awr, gwêl, y mae'r ddrycin wedi myned heibio, a'r lloer yn tywynnu'n siriol."
"Ond y mae dy fwa wedi ei andwyo," ebe'r hen fardd.
"Gresyn fyddai hynny," ebe'r bachgennyn, gan ei gymryd i fyny a'i chwilio. "Y mae e'n gwbl sych, ac nid oes dim niwed arno. Mi a'i profaf." Yna wedi dodi saeth yn y bwa, anelodd, a saethodd yr hen fardd trwy ei galon. "A gredi di bellach na ddifethwyd fy mwa?" ebe fo tan redeg ymaith a chwerthin. Y fath fachgen drwg y mae'n rhaid ei fod i saethu'r hen fardd da a fu mor garedig wrtho!
Gorweddodd yr hen fardd ar y llawr ac wylodd. "Wfft!" ebe fo, "bachgen brwnt yw'r Cariad hwn. Mi ddywedaf wrth blant da ymhell ac yn agos am ymogelyd rhagddo, ac am edrych na chwaraeont byth ag ef, rhag ofn iddo'u niweidio."
A phan glywodd y plant da, yn fechgyn a genethod, beth a ddarfuasai i'r hen fardd, ceisio yn wir a wnaethant ymogelyd rhag Cariad, ond yr oedd hwnnw mor ystrywgar fel y byddai'n eu twyllo'n fynych iawn. A thwyllo a thwyllo y mae o hyd heddiw. Pan ddychwelo'r astudwyr o'r coleg i'w llety, fe fydd yntau'n rhedeg gyda hwynt mewn cotan ddu, ac â llyfr tan