Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gesail. Ni allant mo'i adnabod yn y rhith hwnnw, ac am hynny cymerant ei fraich, gan dybied mai astudiwr yw yntau fel un ohonynt hwythau, a dyna'r pryd y bydd o'n gyrru un o'i saethau trwy eu calon. Yr un ffunud pan ddêl y genethod o'r eglwys fe fydd o bob amser yn eu plith. Y mae o'n rhedeg yn y parciau a'r rhodfeydd cyhoeddus. Y mae o erioed yn llercian o'r tu ôl i bobl, ac yn ceisio cyfle i glwyfo rhywun neu'i gilydd. Do, ddarllenydd, fo saethodd unwaith dy rieni trwy eu calon—gofyn di iddynt, a thi glywi beth a ddywedant. Rywbryd fe ergydiodd at dy hen nain, ond y mae llawer blwyddyn er hynny. Y mae hi yn awr yn iach o'i chlwyf; er hynny hi a'i cofia byth. O, gwalch o fachgen yw Cariad! Na foed i ti a wneli ag ef. Wele mi a'th rybuddiais mewn pryd.

HANS ANDERSEN.


VI. Y BLAIDD A'R BUGAIL

Fe gollodd rhyw fugail ei holl braidd trwy haint, ac wedi clywed hynny fe ddaeth y blaidd ato i gydofidio ag ef.

"Fugail," ebe fo, "ai gwir yw colli ohonot dy holl