Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

braidd? Y defaid bach, gwirion! Yr wyf yn gresynu wrthyt, a mi allwn dywallt dagrau o waed."

"Diolch i ti, Meistr Bela," ebe'r bugail; "mi welaf fod gennyt galon dosturiol iawn."

"Ac yr wyf innau yn dyst," ebe'r ci, "mai calon felly sy ganddo mewn gwirionedd pa bryd bynnag y bo colled ei gymydog yn golled iddo yntau.'

LESSING.


VII. Y DISTYLLWR CYNTAF

Ar ryw foregwaith fe aeth amaethwr tlawd i'w faes i aredig, heb gymryd gydag ef yn ginio ddim amgenach na thafell o fara. Wedi cyrraedd y maes, diosgodd ei geitlen ac a'i dododd yng nghysgod y gwrych, a'r dafell dani. Ymhen rhai oriau fe ddechreuodd yr anifail flino, ac fe ddaeth chwant bwyd ar y dyn; am hynny gollyngodd ei anifail i bori, ac a aeth i'r fan lle'r oedd ei geitlen. Pan gododd ef hon, gwelodd fod y bara wedi diflannu, ac er chwilio a chwilio ni chafodd ef hyd iddo. "Rhyfedd," eb ef, "ni welais i neb, ac er hynny rhaid bod rhywun wedi lladrata'r bara."

Y gwir ydyw mai cythraul oedd y lleidr, ac yr oedd ef yn awr yn ymguddio o'r tu ôl i'r gwrych er mwyn clywed a alwai'r dyn arno yn ei siom a'i lid. Ond er