bod y dyn yn wir siomedig, eto ni chythruddodd ef ddim, eithr dywedyd yn bwyllog: "Wedi'r cwbl, ni byddaf farw o newyn. Rhaid bod ar y neb a ladrataodd y bara fwy o angen amdano na myfi. Iechyd iddo gydag ef."
Ac fe aeth amaethwr at y ffynnon a oedd gerllaw, ac a yfodd o'i dwfr bywiol. Yna bachu'r anifail wrth yr aradr a dechrau aredig eilwaith.
Drwg a syn fu gan y cythraul na allodd demtio'r dyn i bechu; a myned a wnaeth ef i annwn at Bennaeth y cythreuliaid, ac adrodd iddo pa fodd y dygasai ef y dafell o fara oddi ar yr amaethwr, a pha fodd y darfu i hwnnw yn lle melltithio ddywedyd yn unig, "Iechyd iddo."
Chwerw gan y Pencythraul fu chwedl y cythraul bach. "Y penbwl gwirion," eb ef, "rhaid iti wneud iawn am dy fusgrellni hwn. Dos i fyny yn dy ôl, ac oni byddi wedi dal dy bryf cyn pen tair blynedd, yna mi a'th drochaf mewn dwfr santaidd gwnaf yn wir!"
Yr oedd ar y cythreulyn ofn dwfr santaidd yn anad dim; am hynny dychwelodd ar frys i'w hen drigfa ar y ddaear, ac ystyriodd yn ddyfal pa fodd y gallai ef ddyhuddo llid ac ennill ffafr y Pencythraul. Ar ôl meddwl a meddwl penderfynu a wnaeth ef ymwisgo fel dyn gonest ac ymgyflogi'n was i'r amaethwr. A gwas deallus fu ef; canys ac ef yn rhagweld y byddai'r