Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haf cyntaf yn sych, cynghorodd ei feistr i hau yn y gwernydd, a chan ei fod yn dyfalu y byddai'r haf nesaf yn wlyb, fe'i cynghorodd i hau ar y bryniau. Felly, er darfod i gnydau'r cymdogion fethu naill ai gan y gwres neu gan y glaw, fe gafodd meistr y cythraul gnwd toreithiog.

Gan na wyddai'r amaethwr beth i'w wneuthur â'r gormod ŷd a oedd ganddo fe ddysgodd y cythraul iddo wneuthur diod gadarn ag ef.
Yn Rwsia, ac aml wlad arall, yr ydys yn distyllio diod gadarn o drwyth ŷd eplesedig.—E. ap I.
Yn y man fe gafodd yr amaethwr flas ar y ddiod, a gwahoddodd ei gyfeillion i'w phrofi.

Ar hyn fe aeth y cythraul i lawr at y Diafol, sef y Pencythraul, ac a ffrostiodd ei fod o'r diwedd wedi dal ei bryf. Ni fynnai'r Diafol gredu hyn heb gael praw â'i lygaid ei hun. Am hynny, daeth ef at yr amaethwr, gwelodd fod hwnnw newydd wahodd gwŷr a gwragedd parchusaf yr ardal i gyd-yfed ag ef yn ei dŷ. Wedi iddynt yfed y gwydraid cyntaf dechreuasant foli ei gilydd, ac yr oedd eu holl ymadroddion yn beraidd ac yn llyfn fel ymenyn. Wrth glywed eu gwag-siarad fe sibrydodd y Pencythraul wrth y cythraul bychan: "O! fel y maent yn twyllo ei gilydd ag ymadroddion teg. Yn ddiau, y mae'r ddiod hon yn eu gwneud yn gyffelyb i lwynogod."