Prawfddarllenwyd y dudalen hon
oedd y tri gwydraid, ond bod y gwydraid cyntaf yn gwneud dyn yn llwynog, yr ail yn ei wneud yn flaidd, a'r trydydd yn ei wneud yn fochyn. Nid o waed un anifail, eithr o'r ŷd a ordeiniodd y Creawdr yn fara i ddyn y dysgais i'r amaethwr i wneuthur y ddiod hon. Oni thyciodd y demtasiwn gyntaf, fe dyciodd yr ail."
Fe ganmolodd y Pencythraul y cythraul bach ac a'i dyrchafodd yn uchel iawn.
LEO TOLSTOI.