wneud bargen a fyddo'n elw i un blaid ynteu trwy wneud bargen a fyddo'n elw cyfartal i ddwyblaid. Yr oedd hyd yn oed Paganiaid gorau Groeg a Rhufain yn dal nad oedd yn gyfiawn i ddyn ennill ceiniog ar draul colledu eraill, ac na allai un dyn gonest fynd yn gyfoethog iawn mewn byr amser. Os ydym ni'n chwennych anrhydeddu dynion yr oedd y Paganiaid yn eu diystyru, a Christ yn cyhoeddi gwaeau yn eu herbyn, profi y mae hynny, nid bod y Paganiaid yn anfoneddigaidd, na bod yr Iesu yn rhy lym, ond yn hytrach ein bod ni wedi dirywio.
Pan orchmynnodd Iesu Grist i'r gŵr hwn [nw] adael ei holl feddiannau, ef a orchmynnodd iddo nad ymlynai wrth ddim a allai wrthbwyso'r cariad a ddylai fod gan enaid tuag ato Ef. A'r hyn y mae yn ei ofyn ninnau ydyw na charwn ni ddim yn y fath fodd fel na allom ei adael o gariad.
DAMEG Y WINLLAN
Fe ddengys yr Iesu [yn y ddameg hon] y gall gras Duw wneud amser byr yn gyfartal ag amser hir. Y mae hynny megis yn adferu i weithwyr eiddgar yr amser a gollasant. Prif syniad y ddameg ydyw hyn: sef nad wrth fympwy y rhoddir gwobr yn nheyrnas nefoedd, ond yn ôl yr hyn fyddo ansawdd calon a