meddwl y gweithiwr, am nad yw teyrnas nefoedd yn gynwysedig o weithredoedd allanol a wobrwyir mewn modd deddfol a chyffredin. Ond er nad yw'r wobr yn fympwyol, a'i bod hi hefyd yn gytunol â'r hyn sydd gyfiawn, cto y mae hi o ras.
DAMHEGION
Yr oedd y damhegion yn cuddio ac yn datguddio'r gwirionedd yn ôl ystad y gwrandawyr. Er bod y dull hwn ynddo'i hun yn farn, eto yr oedd ddull trugarog hefyd, am ei fod yn cadw'r gwrandawyr rhag bod yn euog o ymgaledu yn erbyn y gwirionedd noeth.
DIAFOL
Gan fod yr Iesu yn bur a dihalog ni ellir tybied bod un meddwl amhûr yn dyfod ohono fo'i hun, fel y synia'r rhai sy'n gwadu fod diafol. Fel y temtiwyd yr Adda cyntaf oddi allan, felly y temtiwyd yr ail Adda hefyd; ond gyda hyn o wahaniaeth, sef bod yr ail wedi gorfod ar y temtiwr.
Y DISGYBL A'R BYD
A phaham yr oedd y byd yn casáu dynion mor ddibynnol ac mor ddiniwed â'r disgyblion? Am fod yr lesu wedi rhoi iddynt hwy ei air, ac yr oedd y gair