PAHAM Y'M GADEWAIST?
Pan fydd Duw yn gadael pechadur, ni raid i hwnnw ddim gofyn Paham . . . Y mae ei gydwybod ef ei hun yn ateb cyn gofyn ohono paham.
SECTYDDIAETH
Peth plentynnaidd fyddai i neb ddigalonni a meddwl bod Cristnogaeth yn colli ei gafael ar y byd o achos. bod trefniadau rhyw un sect fach yng nghornel Prydain yn mynd yn anghyfaddas ac yn aneffeithiol. Paham yr ydys yn barnu duwioldeb dynion, neu'n barnu llwyddiant yr eglwys, yn unig wrth allu i ddweud profiad neu i weddio'n gyhoeddus? Gostyngeiddrwydd, ymwadiad, a chariad ydyw prif rinweddau'r Cristion, ac fe all rhai hyn fod yn amlycach yn y rhai distaw nag yn y rhai dawnus.
Y SWPER
Rhai wrth ddyfod i'r addoldy i fwyta'r Swper yn dywedyd wrth eu pechodau fel y dywedodd Abram wrth ei weision, Arhoswch chwi yma, a mi a af hyd acw ac a addolaf, yna y dychwelaf atoch.
Y TEMTIAD
Fe demtiwyd Crist ar hyd ei oes, ond yn fwyaf arbennig yn nechrau ac yn niwedd ei fywyd cyhoeddus.