cariad gennym, yn gytûn, yn synied yr un peth, y gallwn ni wneud hynny orau, ac nid trwy ysgrifennu llyfrau i amddiffyn Cristnogaeth; nac yn gymaint trwy anfon cenhadon a Beiblau i baganiaid; canys pa fodd mewn difrif yr ydys yn disgwyl i'r byd gytuno i dderbyn Cristnogaeth tra byddo Cristnogion heb gytuno â'i gilydd ynghylch Cristnogaeth? Ofer i sectau Cristnogol ddywedyd wrth baganiaid â thipyn o graffter ynddynt: "Yr ydym ni yn un o ran ysbryd, yr ydym yn cytuno ynghylch y pethau hanfodol," oblegid hwy a atebant yn union: "Os ydych yn un ysbryd, paham na fyddwch yn un ffydd, ac yn un corff hefyd?" Os ydych yn cytuno yn y pethau hanfodol, paham yr ydych yn ymrannu yn fân sectau aneirif oblegid pethau nad ydynt yn hanfodol. A ydyw'r hawl i brotestio yn erbyn syniadau'r cyffredin yn bwysicach yn eich golwg na'r ddyletswydd i ymuno? Y mae rhai'n ceisio cyfiawnhau sectyddiaeth trwy ddweud bod y gystadleuaeth y mae hi yn ei chynhyrchu yn fanteisiol i Gristionogaeth, ond ni raid i neb ddarllen llawer ar ei Feibl ac ar hanes y byd heb gael ei argyhoeddi bod sectyddiaeth y rhwystr mwyaf sy'n bod i Gristnogaeth. Ni ad Duw ei bobl sydd ar wasgar yn y gwahanol sectau, ac ni phaid Ef ag ymweled â'i eglwys gyffredinol er gwaethaf ei hymraniadau; ond nid wyf i fy hun yn gallu gweled bod
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/185
Gwedd