Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cred yr awdur ynddi yn ddiogel, ac erbyn hyn, y sawl a ystyrir yn ystyfnig ac yn afresymol yw'r sawl a gondemnir gan yr awdur yn yr ysgrif hon. Fe deilynga ei lle ar ddechrau'r gyfrol, nid yn gymaint am y wybodaeth sydd ynddi o'r ffeithiau yr ymdrinir â hwy, ond oherwydd praffter meddwl yr awdur ei hun, a'i fod yn awgrymu mor eglur y llwybr y mae'n rhaid i astudiaeth Feiblaidd ei ddilyn.