Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ebe Esiais hefyd: "Ni pherais iti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl-darth." Ac ebe fo mewn man arall: "Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi, medd yr Arglwydd? Gwaed bustych ac ŵyn a bychod nid ymhyfrydais ynddynt. Eich lleuadau newydd a'ch gŵyliau gosodedig a gasaodd fy enaid; maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn." Yn lle ymarfer â'r defodau hyn, gwnewch eich dyletswyddau moesol "peidiwch â gwneuthur drwg, dysgwch wneuthur daioni." Y mae'r proffwyd Mica hefyd mor efengylaidd a gwrth-offeiriadol ag Esaia, canys y mae o'n dywedyd: "A pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd? A ddeuaf fi ger ei fron Ef â phoeth-offrymau a dyniewaid? A foddlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, ac â myrddiwn o ffrydiau olew? Dangosodd Efe i ti, ddyn, beth sydd dda. A pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw?"

Ar y gyfraith Israelaidd ac ysbrydol hon, a roddwyd trwy Foesen a'r proffwydi, ac nid ar y gyfraith Iddewaidd a wnaed gan Esra yr offeiriad, y darfu i'r Iesu sylfaenu ei efengyl. Fe dystiolaethodd Paul fod y gyfraith o ran ei chnewyllyn yn santaidd, yn gyfiawn, ac yn dda; ond pan fydd o'n cyfeirio at ei phlisgyn, y mae o'n ei galw'n ddeddf caethiwed, a'i hegwyddorion yn egwyddorion llesg a thlodion. Er hynny, yr oedd