Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ellid eu talu'n llawn, y gŵyliau mor feithion a lluosog fel na ellid eu cadw oll, a'r cosbau am fân droseddau mor llym fel na feiddiai'r awdurdodau mo'u gweinyddu.

Y mae awdur anhysbys y Llythyr at yr Hebreaid yn gweled yn y tabernacl a'i ddodrefn, yn yr archoffeiriad a'r aberthau, gysgodau o bethau nefol. Hyn, ymhlith pethau eraill, a barodd i'r Eglwysi Gorllewinol, oddieithr Eglwys Rufain, gau allan y llyfr hwn o'r Canon hyd y bumed ganrif. Yr oedd Calfin am yr un rhesymau'n barnu nad Paul oedd ei awdur, a Luther yn myned mor bell â thaeru na allai awdur mor Iddewaidd fod yn ysbrydoledig. Y mae'n wir fod syniadau'r awdur hwn am y ddeddf Lefiticaidd yn bur wahanol i syniadau Paul amdani, ond rhaid cofio mai ei amcan ef oedd cymodi'r Iddewon â Christnogaeth trwy geisio dangos nad oedd y grefydd newydd namyn cyflawniad o'r hen.



Ychydig iawn a ddywedaf am y proffwydi a'r Salmau. Wrth y proffwydi y meddylir nid yn unig lyfrau'r proffwydi a elwir yn briodol felly, ond hefyd y prif lyfrau hanesyddol, megis Ioswa, y Barnwyr, Llyfrau Samwel, a Llyfrau'r Brenhinoedd. Nid oeddid yn cyfrif Daniel ymhlith y proffwydi; am hynny, yn y trydydd dosbarth y ceid ei lyfr ef Beibl Hebraeg.

Fel y sylwyd o'r blaen, y mae syniadau'r proffwydi,