Efrau, a'r Rhwyd, oddi ar ei eistedd yn y llong ar fin môr Galilea. Y maent ill tair yn gweddu i gyflwr naturiol y rhan honno o'r wlad, a hefyd i gyflwr moesol y gwrandawyr. Damhegion pruddaidd ydyw'r rhai hyn, am y golygir teyrnas Dduw ynddynt fel peth amherffaith a siomedig.
Er bod perthynas agos rhwng y tair a'i gilydd, y mae perthynas agosach rhwng dwy, sef dameg yr efrau dameg y rhwyd, oblegid yr un gwirionedd cyffredinol ddysgir ynddynt, sef y bydd cymysgedd o ddrwg a da yn nheyrnas Dduw hyd ddiwedd amser; ac er cynddrwg ydyw'r cymysgedd hwnnw ynddo'i hun, mai doeth ydyw ei oddef hyd oni wahano Duw y drwg a'r da. Er hynny, y mae'r ddwy ddameg yn gwahaniaethu mewn dau beth o leiaf. Yn un peth, fe briodolir y drwg yn nameg yr efrau i falais gwrthwynebwr, tra priodolir ef yn nameg y rhwyd yn hytrach i ddamwain. Yn ail ac yn bennaf, fe ddangosir yn nameg yr efrau nad yw gwahanu'r drwg oddi wrth y da yn beth i'w ddymuno, tra awgrymir yn nameg y rhwyd bod hynny'n beth amhosibl: canys rhaid i'r pysgod da a drwg aros ynghyd yn y rhwyd nes eu tynnu i'r lan. Heblaw'r ddau wahaniaeth yna fe roddir yn nameg yr efrau fwy o amlygrwydd i'r cymysgedd, ac yn nameg y rhwyd fwy o amlygrwydd i'r didoliad.