Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyn diogelwch y gwenith, oddef yr efrau, er gwybod mai efrau ydynt.

Yr esboniad diweddaraf, sef nad gosod i lawr reol ddisgyblaethol y mae'r Iesu yma, ond annog ei ddisgyblion i feithrin ysbryd pwyllog a goddefgar, rhag iddynt, wrth fod yn rhy sicr mai hwynt-hwy ydyw'r gwenith, ac mai eraill ydyw'r efrau, fyned yn Phariseaidd, ac felly eu hatal eu hunain rhag tyfu ac aeddfedu. Gadael i'r gwenith dyfu i berffeithrwydd ydyw'r pwnc pwysig, ac nid cael gwared o'r efrau. Oni ellir cyrraedd y ddau amcan ar yr un pryd, fe ddylid gofalu rhag aberthu'r amcan pwysicaf er mwyn yr amcan lleiaf ei bwys. Y mae'n ofynnol sylwi nad yw'r Iesu wrth esbonio'r ddameg ddim yn egluro'r ymadroddion y dadleuir yn eu cylch; a hynny ond odid er mwyn rhoi ar ddeall nad at ddyletswydd y saint tuag at ragrithwyr y mynnai Ef dynnu sylw, ond at y ddwy ffaith hon: Sef bod yr eglwys ar hyn o bryd yn gymysgedig, ac y llwyr lanheir hi yn y farn ddiwethaf.

YR HAD MWSTARD A'R SURDOES
Yn y ddwy ddameg hyn, ac yn nameg yr had yn tyfu'n ddiarwybod fe ddisgrifir teyrnas nefoedd yn tyfu. Dengys y flaenaf gynnydd allanol y deyrnas fel cymdeithas weledig, a'r ail ei chynnydd mewnol o ran ei dylanwad moesol ar y dyn neu ar y gymdeithas a'i