mewn rhyw fodd ar bawb oll, ond nid yw'n canlyn y bydd y dylanwad lefeiniol ymhob achos yn llwyr a chyflawn.
Y TRYSOR A'R PERL
Dyma'r gwirionedd a ddysgir yn y ddwy ddameg hyn: sef gwerth anghymharol teyrnas Crist, neu fendithion teyrnas Crist; mai yng ngolwg y rhai y mae'n wiw ganddynt aberthu pob peth er ei mwyn y mae hi'n werthfawr; a thra bo rhai yn ei chael heb ei cheisio, ei chael y mae eraill trwy hir a dyfal chwilio amdani. Yr hyn a gyffelybir yma, yn wirioneddol, i'r trysor cuddiedig, ydyw'r meddiant personol a'r had o'r deyrnas, gyda'i holl ragorfreintiau. Mai'r deyrnas ydyw'r daioni pennaf, ac y dylid gwneud pob peth arall yn ddarostyngedig iddi, yw dysg yr Iesu yn Luc ix 60, Math. xvi 24, xix 21, a Luc xiv 26.
Paham na ddywedasid i'r dyn gymryd y trysor a gawsai ef heb ymdrafferthu i brynu'r maes? Nid am y rheswm y buasai'n anghyfreithlon, er bod hynny'n wir, canys nid oedd ef nemor gonestach wrth brynu'r maes heb roi ar ddeall pa beth a welsai ynddo. Mewn un peth yn unig yr oedd ef yn esampl i eraill, sef yn ei barodrwydd i roddi i fyny bob peth er mwyn un peth gwerthfawrocach. Fe fynnai'r Iesu rywfodd neu'i gilydd ddangos bod yr hwn a gawsai'r trysor yn