bwrcaswr hefyd, er mwyn rhoi ar ddeall fod rhyw brynu neu aberthu yn angenrheidiol tuag at feddiannu teyrnas nefoedd. Ond os ydyw'r deyrnas o ras paham y mae'n rhaid pwrcasu? Ac os ydyw i bawb, beth am rhai nad oes ganddynt fodd i brynu? Nid yw prynu yn golygu dim amgen na dangos ar weithred ein bod yn cyfrif y deyrnas yn bennaf peth; a rhaid i bawb wneud hynny, ac y mae gan bawb fodd i wneud cymaint â hynny. Y mae gan bob dyn galon, a'r neb a garo'r trysor â'i holl galon a'i caiff. Y pris a dalodd rhai o'r disgyblion oedd eu llongau a'u rhwydau. Y pris a ofynnwyd gan y gŵr ieuanc cyfoethog oedd ei feddiannau. Y mae'n ofynnol sylwi y darlunnir y naill ddyn fel y llall yn derbyn y deyrnas yn llawen—y blaenaf fel daioni heb ei ddisgwyl, a'r olaf fel daioni hir-ddisgwyliedig. Gweler Esaiah lxv 1, a Jer. xxix 13. I'r dosbarth blaenaf y perthyn y wraig o Samaria, Mathew, Zacheus, Saul; i'r olaf Nathanael a phawb oedd yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel.
Heblaw'r gwahaniaeth y cyfeiriwyd ato, y mae ond odid wahaniaeth arall. Yn nameg y trysor fe osodir allan deyrnas nefoedd fel peth buddiol; yn nameg y perl fel peth prydferth neu addurnol, i awgrymu bod yn yr efengyl rywbeth i gyfarfod â chwaeth dyn yn ogystal ag â'i angen. Y mae hi'n ei gadw ac yn ei santeiddio. Wrth ddywedyd bod y marchnatawr hwn