Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ceisio perlau teg, fe ddangosir ei fod yn ddyn chwaethus, ac fe awgrymir hefyd ei fod yn eu ceisio iddo'i hun o bur gariad tuag at y prydferth, ac nid i'w hailwerthu i eraill er mwyn elw.

DAMEG YR EGINYN, Y DYWYSEN, A'R YD YN LLAWN
Bwriadwyd y ddameg hon i ddysgu bod yr hwn sy'n hau'r Gair, a'r rhai yr heuir y Gair ynddynt, mewn ystyr yn oddefol, a bod y Gair yn tyfu ohono'i hun yn ôl deddfau sefydlog. Nid cefnogi dynion i fod yn ddiog, yn ddifater ac yn ddifeddwl ydyw amcan y ddameg, ond meithrin ynddynt ostyngeiddrwydd, ymddiried, ac amynedd.

Nid dysgu bod had yr yn tyfu'n ddirgel ydyw prif bwynt y ddameg, ond dysgu ei fod yn tyfu'n raddol yn ôl deddf naturiol. Yn lle pryderu a cheisio cynhyrchu tyfiant annaturiol, fe ddylai disgyblion Crist, fel yr amaethwr, ymdawelu yn yr ystyriaeth bod y deyrnas yn myned rhagddi yn ei hamser ei hun ac yn ôl ei deddfau ei hun. Un yn hau'n ddyfal heb ddisgwyl ffrwyth yn fuan oedd Crist ei hun ar y ddaear.

"Y modd nis gŵyr efe." Dangos y mae'r ymadrodd hwn, nid fod yr amaethwr yn anwybodus ynghylch deddfau tyfiant, ond ei fod yn ddibryder am y deddfau hynny. Hyn mewn effaith a ddywed yr Iesu: Y mae'r amaethwr yn ddiofal am gynnydd yr had am y gŵyr