sicr o'u bara wrth roi cyfran resymol o'u hamser i dderbyn addysg grefyddol; canys pan ystyrir bod yr athrawon yn yr ysgolion gwladwriaethol yn dra anfedrus, a bod y prifathrawon yn gorfod addysgu wrth sistem sy nid yn unig yn anfuddiol, ond hefyd yn niweidiol i feddyliau'r rhan fwyaf o'r plant, ac yn gyff gwawd i bawb sy wedi astudio'r gelfyddyd o addysgu, fe ellir disgwyl i lawer o weinidogion a blaenoriaid yr eglwysi, wrth ddilyn dull mwy rhesymol, gyflawni diffyg yr addysg fydol, trwy wneud y plant nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn ddeallus, ac felly eu cynorthwyo i ragori ymhob galwedigaeth ac ymhob cylch y byddont ynddynt.
Y mae'r cyfarfodydd y darperir ieuenctid ynddynt gogyfer â'r arholiadau ysgrythurol, a hyd yn oed gogyfer â'r holi cyhoeddus mewn ysgolion Sabbothol yn ddisgyblaeth dda i'r plant, ac yn helaethu eu gwybodaeth yn fawr; ond wedi'r cwbl, nid yw'r wybodaeth a enillant trwy hynny'n ddigon perthnasol na chyffredinol i'w cymhwyso i fod yn aelodau goleuedig o eglwys Crist. Gallant ragori flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y meysydd a roddir iddynt i'w llafurio gan bwyllgor yr arholiad, a chan y cyfarfod ysgolion, heb gael yn y diwedd y brasolwg hwnnw ar holl faes y datguddiad dwyfol sy'n angenrheidiol i ddisgyblion Crist. Hanes bywyd yr Iesu, wrth reswm, ydyw'r peth rheitiaf i'w