wybod, ond ni ellir deall yr hanes hwnnw'n iawn, os ddangosir ei gysylltiad â'r hyn sydd o'i flaen ac ar ei ôl. Am hynny, un o'r pethau cyntaf y dylai athro ei wneuthur ydyw dangos mewn modd syml i'r ymgeiswyr am aelodaeth, rediad a datblygiad y datguddiad a roes Duw ohono'i Hun ac o'i ewyllys. Er mwyn dangos hynny'n hytrach mewn ffordd hanesyddol nag mewn ffordd ddiwinyddol, fe ellid cysylltu'r datguddiad â phersonau neilltuol, neu â swyddogaeth y bardd, y proffwyd, yr efengylwr, a'r apostol, neu mewn rhyw fodd diddorol arall. Ynglŷn â hyn, fe ddylid addysgu'r ymgeiswyr i ddywedyd ar fyr eiriau beth ydyw baich neu brif bynciau pob llyfr yn y Beibl yn ôl trefn amseryddol. Ac er mwyn arbed ieuenctid rhag cael eu hysgytio yn annisgwyliadwy ar ôl hyn gan eu hamheuon eu hunain, neu gan ddadleuon dynion anffyddol, peth doeth iawn ydyw brysio i ddangos iddynt fod y Beibl, er yn ddwyfol o ran ei gynhwysiad, yn dra dynol o ran ei gyfansoddiad. Y mae'n wir ei fod wedi ei ysgrifennu ar wahanol adegau gan ddynion i ddynion; ac mai'r Eglwys, yr addawodd yr lesu fod yn ei chanol hyd ddiwedd amser, a gyfarwyddwyd, ie, a ysbrydolwyd i fesur, i benderfynu pa lyfrau a fwriadodd Duw i ddatguddio'n gywir ac yn gyflawn ei Gyfamod Newydd. Y mae llawer o Brotestaniaid yn rhy dueddol i anghofio'r gwirionedd na ellir
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/66
Gwedd