yn; 5. Y ddau orchymyn mawr; 6. Credo'r Apostolion yn ei ddull cyntefig; 7. Y Gwynfydau; 8. Yr hanner olaf o'r unfed bennod ar ddeg o'r Corinthiaid cyntaf; 9. Atebion i holiadau oddi ar yr adnodau hynny; 10. Y Weddi Apostolaidd.
Pe gwneid yn hysbys pa bethau y disgwylid i aelodau ar braw eu hadrodd wrth gael eu derbyn, gallent ddechrau eu dysgu yn eu plentyndod rhag cael o'r rhai arafaf a phrysuraf achos i ddywedyd bod ychydig wythnosau yn amser rhy fyr.
Yr wyf wedi awgrymu y dylid eu derbyn oll ar yr un adeg o'r flwyddyn, ac efallai mai ymhen rhai wythnosau ar ôl yr arholiad ysgrythurol, ac wythnos neu ddwy cyn Calan Mai fyddai'r adeg fwyaf cyfleus. Er mwyn gosod pwysigrwydd ar y gwaith, fe ddylid neilltuo un cyfarfod eglwysig yn gyfangwbl i'r perwyl hwn. Er mwyn arbed amser, a pheri mwy o ddiddordeb i'r gwrandawyr, gofynner i'r ymgeiswyr o'u sefyll, a'u hwyneb tuag at y gynulleidfa gydadrodd pop peth a roddwyd iddynt i'w ddysgu, oddieithr yr atebion i holiadau. Nid oes eisiau dangos bod derbyn lliaws gyda'i gilydd yn effeithiolach o lawer na'u derbyn o un i un yn awr a phryd arall, ac nid y daioni lleiaf sy'n dyfod o'r dull hwn ydyw ei fod yn magu rhwng yr ymgeiswyr fwy o frawdgarwch a chydymdeimlad a bery rhyngddynt gan mwyaf ar hyd eu hoes. Y mae'r