Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brawd Lazarus yn glaf, y mae Rachel yn wylo am ei phlant. Yn wir, mi ddylwn fyned atynt i'w cysuro, oblegid ar yr un pryd â mi y gwnaed nhw'n gyfranogion o holl freintiau'r Eglwys, a ni a addawsom y pryd hwnnw y carem ein gilydd hyd y diwedd, megis y carodd Crist ninnau, ac nad anghofiem byth ein bod yn frodyr i'n gilydd wrth wneuthur coffa am ein brawd hynaf.

Mi fynnwn i annog swyddogion yr eglwysi i wneud un peth bach arall a fyddai'n fawr iawn gan aelodau ieuainc, sef rhoddi i bob ymgeisydd wrth ei dderbyn, gopi cryf o'r Beibl, ynghyd â chopi o'r Gyffes Ffydd, a'r Llyfr Emynau hefyd, os gallant;—nid wobr am eu llafur, ond yn hytrach yn goffadwriaeth am yr amgylchiad pwysig yn yr hwn cadarnhasant ohonynt eu hunain yr hyn a wnaeth eu rhieni trostynt yn y bedydd.