Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ARAITH YNGLŶN A CHASGLIAD Y TLODION

ANNWYL FRODYR,
Y mae'r adroddiad hwn y gofynnwyd imi dynnu'ch sylw ato yn traethu ei chwedl ei hun ddiduedd ac yn ddidramgwydd i bob un a'i darlleno, ac yn enwedig a'u cymharo â'r adroddiad blaenorol, fel nad yw'n angenrheidiol i mi fanylu nemor arno, pe gallwn. Am y rhai na allant, a'r rhai na fynnant ddysgu eu holl wersi, hwy a gânt, os ydynt yn swyddogion eu cynorthwyo yn y man gan wŷr cymwys a benodir i wneud sylw ar yr adroddiad hwn gan y Cyfarfod Misol; ac a gânt, os ydynt yn aelodau yn unig, eu cynorthwyo gan y rhai a benodir i ymweled â'r eglwysi. Bydd gan y rhai hyn fantais neilltuol i wybod i ba eglwysi ac i ba bethau y dylid priodoli'r hyn sy'n rhagorol neu'n ddiffygiol yn holl eglwysi Dyffryn Clwyd, a'u golygu yn un cyfangorff. Nid yw'r fantais hon gennyf i ar hyn o bryd, gan mai cyfanswm pob casgliad a chyfanrif yr ystadegau eraill sydd o'm blaen. Felly, gan mai cyffredinol ydyw fy ngwybodaeth am y Cyfrifon Ariannol, a'r Cyfrifon Personol, etc., cyffredinol (a chyffredin hefyd) fydd yr ychydig sylwadau a wnaf