gan ryw ddosbarth. Y mae "gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd," yn adnod Ysgrythurol, ac yn un a gredir yn ddiamau yn ein plith; ond fe ddengys yr adroddiad mai rhyw naw deg o bunnau ydyw gwerth cred holl eglwysi Methodistaidd Dyffryn Clwyd, llai o dair punt na chasgliad y flwyddyn o'r blaen. Pa gasgliad bynnag a leihaodd o achos yr adfyd presennol, fe allesid disgwyl i hwn fwyhau. A ydys i gasglu oddi wrth hyn mai'r tlodion a fyddai'n cynorthwyo mwyaf ar y tlodion, ac nad yw'n cyfoethogion yn rhoddi mwy er pan orfu i'r tlodion roddi llai? Y mae cynifer yn gwneud cam â'r cyfoethogion trwy eu canmol yn anghymedrol am fwrw o'r hyn sy weddill ganddynt i lestri'r casglyddion fel y dylid goddef i ambell un ddywedyd yn gyhoeddus yn enw'r rhai sy'n dywedyd hynny'n ddirgel nad yw'r rhan fwyaf o'r cyfoethogion yn cyfrannu agos gymaint ag y dylent. Yr wyf yn deall bod llawer o lafurwyr yn rhoddi'r ddegfed ran o'u heiddo tuag at amcanion crefyddol ac elusennol, ac y mae'n dda gennyf ddeall bod un neu ddau o wŷr lled ariannog yn y Dyffryn hwn yn gwneud yr un peth; a phe bai pob dyn ariannog yn eu dilyn hwy ni byddai raid i gymaint ag un gwaith da sefyll o eisiau arian. Os peidiwn â gofalu am y tlodion yn enwedig, hwy a beidiant hwythau â gofalu amdanom ninnau; canys anodd yw argyhoeddi dynion
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/74
Gwedd