Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac fe fyddai i'r amrywiaeth a ddygid i mewn trwy hynny beri mwy o fudd a diddordeb, yn enwedig i'r dosbarth ieuanc, y dylai'r Methodistiaid frysio i ennill ei ffafr ymhob modd cyfreithlon. Wrth reswm, ni allai Cyfarfod Misol na Chymdeithasfa ddwyn hyn i mewn heb beri mwy o ddrwg nag o dda, am mai eu gwaith priodol hwy ydyw trefnu a llywodraethu pethau, ac nid eu cychwyn. Ond y mae'n anodd meddwl y gwrthwynebent ymgais unrhyw eglwys neu ddosbarth mewn eglwys i wneud y gwasanaeth crefyddol yn fwy cymeradwy.

Gan ein bod ni'n proffesu bod yn fwy rhyddfrydig na'n tadau, ac wedi cael gwell manteision na hwynthwy i wybod hanes a threfn yr Eglwys Gristnogol yn yr oesoedd cyntaf, gobeithio y byddwn oherwydd ein rhyddfrydigrwydd a'n gwybodaeth helaethach yn barod i gydoddef â'n gilydd, ac i dderbyn i'n credo ac i'n trefniadau ambell beth sy cyn hyned â'r Testament Newydd, ond sydd efallai yn lled newydd i ni. Am "hen drefn eglwysig y Testament Newydd," ni chawn, er chwilio, hyd i honno byth; a hynny am y rheswm da nad un drefn oedd bod yn yn nyddiau'r apostolion mwy nag yn ein dyddiau ninnau. Nid oes dim sydd. eglurach i'r deallus na bod eglwysi Jerusalem, Antiochia, ac Ephesus, yn gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd yn eu trefniadau eglwysig; a hefyd yn gwahân-