hurddas. Pan oedd cosbau gwladol yn drymion, yr oedd cosbau eglwysig hefyd yn drymion; ac felly yn nyddiau'r hen Buritaniaid a'r hen Fethodistiaid, yr oedd y neb a drôi ei wallt oddi ar ei dalcen ac oddi tros ei lygaid, cyn rhyngu bodd i'r nef ei wneud yn benfoel, yn euog o farn; y neb a chwibanai dôn gysegredig ar y Sul yn euog o gyngor; a'r neb a ddywedai fod y Beibl yn air Duw yn lle dywedyd mai'r Beibl ydyw gair Duw, yn euog o dân uffern. Ond erbyn hyn, y mae penaethiaid y sect fanylaf yn ein plith yn credu ac yn gwneuthur llawer o bethau a fuasai'n peri dychryn i'w teidiau.
Heblaw hynny, y mae mwy o gystadleuaeth enwadol ein gwlad nag a fu erioed o'r blaen; a phan fo amryw gyfundebau crefyddol yn barod i esguso pethau a gondemnir mewn cyfundeb arall, yna y mae disgyblaeth dra llem yn mynd yn anfuddiol yn anfuddiol i'r cyfundeb ei hun am ei fod yn colli llawer o'i aelodau, ac yn anfuddiol i'r aelodau eu hunain am eu bod wrth fyned yn aelodau o gyfundeb arall mwy goddefgar, yn gwneud y ddisgyblaeth a fu arnynt yn ddi—rym. A pha faint o les sy mewn disgyblaeth os na bydd hi'n peri ofn ac yn peri diwygiad?
Fe ddywed rhai nad oes golled wirioneddol am yr aelodau yr ydys yn eu colli yn y ffordd hon. Hwyrach nad oes fawr o golled amdanynt, er dim gwasanaeth y