weithred, fe ddylid edrych pa mor gymwys ydyw'r eglwys i weinyddu disgyblaeth, a pha mor gymwys ydyw'r aelodau i dderbyn disgyblaeth, a pha mor argyhoeddedig ydyw'r byd a'r oes o ddrwg rhai o'r pethau y dywedir yn eu herbyn. Gwych yn ddiau fyddai cael eglwysi pur; ond y pwnc ydyw, a ellir eu gwneud yn bur trwy ddisgyblaeth yn unig. Onid ffrwyth purdeb, ac nid yr achos ohono ydyw disgyblaeth? Eglwys bur a fedr ddisgyblu. Gan eglwys bur y mae hawl i ddisgyblu. Yn awr, pa eglwys sy'n ddigon pur i geryddu ac i gosbi am bob bai? A oes gan y cybyddion sy mewn eglwys hawl i geryddu'r neb a feddwo unwaith yn y mis? A oes gan y rhai sy'n casáu ei gilydd ar hyd y blynyddoedd hawl i godi eu llaw yn erbyn y neb a garo'n anianol ac yn afreolaidd. unwaith mewn oes? A oes gan y rhai sy'n chwarae castiau twyllodrus mewn siop neu ffair neu farchnad hawl i gondemnio'r rhai sy'n chwarae pêl droed? Gyfeillion, yr oedd yn hoff gan yr Iesu burdeb, ond yr oedd yn hoff ganddo gysondeb hefyd. Yr oedd yn hoff ganddo gydymdeimlo â'r gwan, a gwneuthur rhagor rhwng pechod a phechod, a rhwng pechadur a phechadur. Am hynny, er mwyn llywodraethu eiddigedd dynion rhy ddidostur, y mae o'n dywedyd wrthym heddiw eto: "Yr hwn sy ddibechod, tafled yn gyntaf garreg."