Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae a wnelo'r pethau a ddywedais am ddisgyblaeth yn gyffredinol â'r pethau a ddywedaf ymhellach am ein hymddygiad tuag at y rhai sy'n ymddifyrru. Os mynnwn i'n geiriau yn y pulpud ac o dan y pulpud ddylanwadu ar y rhai sydd yn ein barn ni yn ymddifyrru'n amhriodol, neu ynteu'n ymddifyrru'n anghymedrol, rhaid inni ymlaenaf ac yn bennaf dim gydymdeimlo â hwynt. Rhaid inni eu hargyhoeddi mai o gariad pur tuag atynt hwy eu hunain, ac nid oddi ar ofn i obaith ein helw ni fyned ymaith yr ydym yn dywedyd yn erbyn eu difyrrwch. Rhaid i'n cydymdeimlad â hwynt fod yn ddigon diffuant i beri inni addef, os bydd achos, eu bod hwy mewn rhai pethau'n rhagori arnom ni. Rhaid iddo fod yn gydymdeimlad a baro inni ystyried yr amgylchiadau y bo'r person hwn a'r person arall ynddynt. Dangoswn ein cydymdeimlad trwy fod yn llawen gyda'r rhai sy lawen, a thrwy ddyrchafu a chymedroli eu difyrrwch, ac nid trwy geisio ei atal yn llwyr. Os myn rhyw fugail ddywedyd yn erbyn chwaraeon, fe ddylai hwnnw o gydwybod chwarae ei hun gyda'i braidd ieuanc ryw unwaith neu ddwy yn y flwyddyn, er mwyn dangos nad oes ganddo ddim yn erbyn chwarae ynddo'i hun. Os clyw'r swyddogion fod rhai o'r aelodau yn myned i weled mân chwaraeon theatrol yn neuaddau trefi'r Rhyl, Dinbych, a Rhuthyn, anogwn hwynt i fynnu gweled