Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sarah Bernhard, Henry Irving, neu Beerbohm Tree yn chwarae rhyw ddrama uwchraddol, fel diflasont ar fân gomedïwyr teithiol. Os clywant fod yr ieuenctid yn rhy chwannog i ddarllen nofelau, anogwn hwynt i ddarllen prif nofelau'r byd i ddechrau; ac er nad oes cymaint ag un nofelydd o'r radd flaenaf wedi ymgodi ym Mhrydain a'r Almaen, ac nad oes ym Mhrydain ond dau neu dri sydd ym marn y byd yn haeddu eu gosod yn yr ail radd chwaith, eto y mae rhai o nofelau clasurol Ffrainc, y Sbaen, yr Ital, Rwsia, a Norwy, wedi eu cyfieithu i'r Saesneg; ac y mae hyd yn oed nofelau Goldsmith, George Eliot, a Walter Scott, a nofelau Cymraeg Daniel Owen a Gwynn Jones yn anhraethol well na'r nofelau Saesneg y mae'r rhan fwyaf yn eu darllen. Er nad oes dim rhithyn o athroniaeth yn nofelau Walter Scott, na llawer o feddylgarwch chwaith, eto nid ydynt hwythau er eu based yn ddigon bas gan ddarllenwyr cyffredin.

Wrth lefaru am ddifyrrwch yr oes, dylem hefyd ofalu na chymysgom bethau y dylid eu gwahanu, trwy lefaru am chwaraeon a chwaryddiaethau fel pe baent yr un peth. Am chwaryddiaethau (sports), sef chwaraeon wrth broffes, a chwaraeon cystadleuol, lle y mae pob math o gymeriadau yn ymgyfarfod â'i gilydd, ni all yr eglwys oddef y rheini, canys y mae goreugwyr y byd ei hun yn eu condemnio hwy.