Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Am chwaraeon sydd heb fod yn chwaryddiaethau, gallant hwy fod naill ai'n ddrwg, neu ynteu'n ddiddrwg. Y mae'r rhai sy ddrwg ynddynt eu hunain yn ddrwg i bawb yn ddiwahaniaeth; ac fe all chwaraeon diddrwg ynddynt eu hunain fod yn ddrwg i rai. Dengys hyn y dylid barnu chwaraeon nid yn ôl eu natur yn unig, eithr yn ôl eu dylanwad ar y chwaraewyr.

Fe ellir dywedyd yr un peth am ddifyrrwch yn gyffredinol ag a ddywedwyd am chwaraeon yn neilltuol, canys fe all difyrrwch fod naill ai'n ddrwg neu ynteu'n ddiddrwg; neu a siarad yn fanylach, gall fod yn ddifyrrwch cyfreithlon, neu yn ddifyrrwch anghyfreithlon; neu ynteu'n ddifyrrwch anweddus. A chan nad yw pob difyrrwch unrhyw ddifyrrwch, y mae'n amlwg na ddylem lefaru am y tri math yn yr un modd.

Am ddifyrrwch anghyfreithlon, ni ddylem betruso ei gondemnio ef bob amser ac ymhobman. O dan ddifyrrwch anghyfreithlon fe ellir dosbarthu pob rhyw chwarae creulon, hapchwarae, a phob math o gamblo. Hyd yn hyn, nid yw pawb wedi eu hargyhoeddi bod chwarae pêl droed, hyd yn oed yn y modd gerwin yr ydys yn ei chwarae yn y wlad hon, yn chwarae creulon; ond y mae pob cenedl dramor yn barnu ei fod yn chwarae anifeilaidd a darostyngol iawn, a'i fod yn fwy cyfaddas i fagu milwyr nag i fagu dynion; ac yn y