Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyddiau hyn y mae llawer o ddynion gorau Prydain yn dechrau edrych arno fel y mae cenhedloedd eraill yn edrych arno. Rhag ichwi feddwl mai pregethwyr culfarn sy'n dywedyd yn ei erbyn, a hynny mewn rhyw bapurach crefyddol fel y Gadlef a'r British Weekly, gwrandewch beth o'r hyn a ddywedodd Mr. Ernest Ensor amdano yn y Contemporary Review: "The system is bad for the players, worse for the spectators. The former learn improvident habits, become vastly conceited, whilst failing to see that they are treated like chattels, and cannot help but be brutalised. The latter are injured physically and morally. Out of every twenty thousand people who watch football matches every Saturday, many must catch colds or worse. Football, in short, is destroying the physique of the manufacturing population." Gan hynny, y mae pob pregethwr a gondemnio chwarae pêl droed, yn enwedig pan fo'r chwarae hwnnw yn un cystadleuol, yn cydsefyll â rhai o leygwyr mwyaf goleuedig y deyrnas, ac â phlaid sy'n cynyddu bob dydd.

Ond wrth gondemnio chwarae pêl droed, a chwaraeon eraill a'r sydd yn ffyrnigo'r chwaraewyr, fe fyddai'n ddoeth eu hannog i droi'n ôl at chwaraeon mwy diniwed a llawenhaol oedd ar arfer yng Nghymru pan oeddwn i ac eraill yn blant, neu ynteu at yr ymarfer